Back

ⓘ Rhethreg




Rhethreg
                                     

ⓘ Rhethreg

Celfyddyd neu astudiaeth llefaru ac ysgrifennu yw rhethreg, rheitheg, areitheg neu areithyddiaeth. Yn ei ystyr eangaf, maer gair hwn yn golygur ddamcaniaeth o huodledd, pa un ai llafaredig neu ysgrifenedig. Ei amcan yw egluror arferion sydd yn rheoli cyfansoddiadau rhyddieithol ac areithiau fel ei gilydd, a fwriedir i ddylanwadu ar farn neu deimladaur gynulledifa. Gan hynny, maen ymdrin âr hyn sydd yn dwyn perthynas â phrydferthwch a nerth arddull – hynny yw, trwy ddefnyddio cywirdeb ieithyddol, cyfansoddi brawddegau yn rheolaidd, ac arfer ffigurau a chymariaethau priodol. Yn ei ystyr manylaf a mwyaf cyfyng, mae rhethreg yn ymwneud âr egwyddorion sylfaenol ar ba rai y mae anerchiadau areithyddol yn cael eu cyfansoddi. Rhethregwr ydyw un sydd yn dysgu ysgrifennu ar areithyddiaeth, ac areithiwr ydyw un sydd yn ymarfer y gelfyddyd.

Prif amcan rhethreg yw argyhoeddi a pherswadio. Nid ywn ymwneud âr olrheiniad o wirionedd ond megis ail beth yn unig. Fel ei sylfaen, y maen cymryd yn ganiataol fodolaeth egwyddorion neu ffeithiau; ar amcan ganddi ydyw, cyflwynor rhai hynny yn y ffurf mwyaf cyfaddasol i ennill cydsyniad y deall a gwneuthur argraff ar y galon, er peri i un ymatal rhag, neu iw dueddu tuag at ryw benderfyniad neu weithrediad neilltuol.

Roedd rhethreg yn gyfrwng hollbwysig ym mywyd deallusol yr hen Roegwyr a Rhufeiniaid, ac yn un o wyddoraur trifiwm yn addysg Ewropeaidd yr Oesoedd Canol. Yr ysgrifenwyr enwocaf ar rethreg ac areithyddiaeth yn mysg yr hynafiaid oedd Aristoteles, Cicero, a Quintilian, ac mewn amseroedd diweddar y Saeson Blair, Campbell, Whately, a Spalding, yr Almaenwyr Erneste Maass, Schott, Fichter, a Falknann, ar Ffrancod Rollin, Gilbery, La Batteux, La Harpe, Marmontel, ac Andrieux.

                                     

1.1. Y traddodiad llenyddol Y Rhufeiniaid

Roedd y gelfyddyd rethregol wedi cyrhaedd perffeithrwydd mawr yng ngwlad Groeg cyn iddi erioed dynnu sylw na chael nemawr oi hastudio yn Rhufain. Mor ddiweddar ar flwyddyn 161 CC, pasiodd y senedd yno benderfyniad i yrrur holl athronyddion ar rhethregwyr allan or ddinas. Ond tua chwe blynedd yn ddiweddarach, daeth Carneades, Critolaus, a Diogenes, yn genhadwyr o Athen i Rufain, a swynwyd pobl ieuanc Rhufain gymaint gan ei hyawdledd rhyfeddol fel y penderfynasant hwythau hefyd astudior gelfyddyd drostynt eu hunain. Dywed Seneca mai Lucius Plotinus o Âl oedd y cyntaf a ddysgodd areithyddiaeth yn Rhufain. Mae Quintilian yn enwir personau canlynol ym mygs yr ysgrifenwyr Rhufeinig ar rethreg: Marcus Cato, Antonyr areithydd, Cornificius, Stertinius, a Gallio; ac yn oes Quintilian, yr oedd Virginius, Pliny, a Rutilius yn deilwng ou chwanegu atynt.

Roedd Cicero hefyd, y mwyaf ardderchog or holl areithwyr Rhufeinig, yn un or hen ysgrifenwyr a gyfansoddodd yn fwyaf helaeth a rhagorol ar areithyddiaeth. Efe a ysgrifenodd oddeutu pump neu chwech o draethodau helaeth ar y testun hwn. Maer Orator yn gynwysedig mewn tri llyfr; ac y mae wedi ei gyfansoddi mewn ffurf ymddiddanol. Y prif siaradwyr ydynt L. Crassus ac M. Antonius; ac y mae Cicero yn gosod ei opiniynau ei hun yn ngenaur blaenaf. Mae y llyfr cyntaf yn ymdrin âr pwnc yn gyffredinol, ac yn cyfeirio yn neillduol at anhawsderaur gelfyddyd o areithyddiaeth, ar canghennau hynny oefrydiaeth â pha rai y dylair areithiwr penigamp fod yn gydnabyddus. Yn ôl Crassus, dylai cymhwysderau yr areithydd fod or radd uchaf; ac mai amcan y gelfyddyd ydyw, dysgu dyn i siarad neu i areithio yn y modd mwyaf galluog a dylanwadol; ac y dylai yr areithydd wneuthur ei hun yn gyfarwydd ym mhob dosbarth a changen o ddysgeidiaeth. Dywed nad ydyw huodledd yn gynwysedig mewn cadw yn fanwl at reolau celfyddydol: ond mai rheolau ydynt mewn gwirionedd wedi eu tynnu fel casgliadau wrth chwilio i ansoddau hyawdledd. Dylair ymarferiadau o ddarllen, traddodi, a gwellhaur cof gael eu diwyllio yn ofalus gan yr areithydd; ac uwch law y cwbl dylai fod yn gyfarwydd hollol mewn materion a berthynant ir gyfraith wladol. Dadleuai Antonius yn erbyn y gosodiadau hyn, ac eraill cyffelyb iddynt; a haerai nad ydyw adnabyddiaeth helaeth a chyfarwydd or gyfraith ddim yn angenrheidiol a hanfodol, a bod yr hwn a all siarad ar achosion cyffredin gyda pharodrwydd a nerth nes argyhoeddir gwrandawyr yn deilwng or alw yn areithydd. Ymdrina yr awdur yn yr ail lyfr â dyfais, trefn, a chof. Edrychir ar y cyntaf mewn golygiad triphlyg, yn ôl amcan y siaradwr ar y pryd; sef, addysgu, perswadio, neu ddifyru. O dan y pennawd o drefniad, ymdrinir âr amrywiol rannau o araith; sef, yr arweiniad i mewn, yr adroddiad, y rhaniadau, y cadarnhâd, y gwrth-ddadleuon, ar diweddglo. Yna ymdrina gwahanol fathau o areithyddiaeth; a diweddar llyfr gyda sylwadau ar y cof pan wedi ei gryfhau gan gelfyddyd. Yn y trydydd llyfr, cymerir i fyny y pwnc o hyawdledd. Mae teithi geiriau, cyfansoddiad ac adddurniant brawddegau, a phethau eraill cysylltiedig ag iaith ac arddull,yn cael eu hegluro yn helaeth ynddo; a therfynir yr holl waith gydag ymdriniaeth a sylwadau ar agwedd ac ystum corff y llefarwr pan yn areithio.

Ysgrifennodd Quintilian, yr hwn oedd ei hunan yn rhethregwr o gymeriad uchel, ar ôl Cicero. O ganlyniad, cafodd y fantais o weld ac astudio ysgrifeniadau ysblenydd yr olaf; ac y mae ei Institutions of Oratory, mewn deuddeg llyfr, yn cael ei ystyried y gyffredinol y gwaith mwyaf cyflawn sydd yn bod ar y pwnc. Mae rhai areithiau sydd ar gael eto yn cael eu priodoli iddo ef; ond yn gymaint ag nad ydynt yn cytuno âr rheolau y mae efe ei hun wedi eu gosod i lawr, nid ydyw eu dilysrwydd yn cael ei gydnabod yn gyffredinol.

                                     

1.2. Y traddodiad llenyddol Yr Oesoedd Canol

Sant Awstin o Hippo, un or Tadau Eglwysig boreuaf, oedd un or cyntaf i ysgrifennu esiampl rethregol ir Cristion. Y pedwerydd llyfr oi destun De doctrina christiana ywr ddamcaniaeth rethregol gyntaf at ddiben y gweinidog neur pregethwr Cristnogol. Nid ywr gwaith yn ceisio osod rhethreg yn uwch na diwinyddiaeth neu resymeg, ond ymdrechodd i gyfuno dehongliad y Beibl â rhethreg.

Yn niwedd y 13g, blodeuodd dau o ddisgyblion yr athronydd Almaenig Albertus Magnus a gawsant ddylanwad sylweddol ar addysg y prifysgolion canoloesol: Tomos o Acwin a Phedr o Sbaen yn hwyrach Pab Ioan XXI. Dysgawdwr pennaf y cwricwlwm diwinyddol oedd Tomos, a ysgrifennodd ar resymeg yr haniaeth a symbolaeth. Cafodd ei ysgrifau ddylanwad ar ddiwinyddiaeth ac athroniaeth fel ei gilydd, yn bennaf traddodiad yr ysgolwyr. Athro blaenar celfyddydau breiniol oedd Pedr ac efe oedd yn gyfrifol am osod rhesymeg yn bwnc y maer myfyriwr rhethreg yn anelu at ei astudio. Ysgrifennodd ar resymeg y dilechdid.

                                     

1.3. Y traddodiad llenyddol Y Dadeni

Yn oes y Dadeni Dysg, llewyrchodd llên mewn ieithoedd y werin ac felly rhethreg. Y Ffrancwr Petrus Ramus oedd prif rethregwr y 16g.

                                     
  • cyffredin arddull mae ymgom ac ymsom, acenion, gramadeg, ac hyd y frawddeg. Rhethreg arddulleg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Ionawr 2017. Widdowson
  • ym Madrid gan Galindo. Ym Mhrifysgol Salamanca, darlithiodd ar bynciau rhethreg athroniaeth, a meddygaeth. Ysgrifennodd sawl cyfrol o farddoniaeth Ladin
  • celfyddydau. Yng nghyfadran y celfyddydau dysgodd myfyrwyr y trifiwm gramadeg, rhethreg a dilechdid a r cwadrifiwm rhifyddeg, geometreg, seryddiaeth, a cherddoriaeth
  • brwd. Gweithiodd am gyfnod fel tiwtor cyn iddo gael ei benodi n athro rhethreg ym Mhrifysgol Napoli yn 1699. Penodwyd yn hanesydd llys i Frenin Napoli
  • humanitatis oedd yr enw ar bynciau gramadeg yn hanesyddol, gramadeg Lladin rhethreg athroniaeth foesol, barddoniaeth, ac hanes, term sydd yn debyg i r dyniaethau
  • ysgolheictod Cymraeg. Llyfr sy n nodweddiadol o ysbryd y Dadeni ydyw. Ei bwnc yw rhethreg mewn llenyddiaeth. Er ei fod yn seiliedig ar lyfr cynharaf gan William
  • hynod o anarferol i ferch dderbyn addysg o r fath, a ni chafodd wersi rhethreg sef pwnc a ddysgid gan ddynion ifainc yn unig. Ysgrifennodd sawl traethawd
  • cyn bod yn ugain oed. Bu raid iddo ffoi i Wlad Groeg, lle bu n astudio rhethreg Dangosodd ei fod yn arweinydd milwrol galluog mewn ymgyrch yn erbyn Aristobulus
  • 362 pasiwyd deddf oedd yn gwahardd Cristionogion rhag dysgu gramadeg a rhethreg ac alltudiwyd rhai esgobion megis Athanasius. Yn 363 cychwynnodd Julian
  • ei goresgyn dros dro gan lwythi Germanaidd yn y 4g roedd ei hysgolion rhethreg ac athroniaeth yn dal i flodeuo nes iddynt gael eu cau gan Justinian yn
  • Groeg a Lladin a llenyddiaeth glasurol. Ym 1431 fe i penodwyd yn athro rhethreg ym Mhrifysgol Pavia. Yno, ymosododd ar draddodiadau canoloesol y gyfadran

Users also searched:

...