Back

ⓘ Athroniaeth




                                               

Ira Levin

Nofelydd a dramodydd Americanaidd oedd Ira Marvin Levin. Ganed ym Manhattan, Dinas Efrog Newydd, ac yno ac yn y Bronx cafodd ei fagu. Mynychodd yr ysgol baratoi breifat Ysgol Horace Mann yn y Bronx. Aeth ym Mhrifysgol Drake yn Des Moines, Iowa, am ddwy flynedd cyn iddo drosglwyddo i Brifysgol Efrog Newydd i astudio athroniaeth a Saesneg. Wedi iddo raddio ym 1950, cytunodd ei dad, yn gyndyn, i ariannu Ira am ddwy flynedd tra yr oedd yn cychwyn ar ei yrfa lenyddol. Gwerthodd ei sgript deledu gyntaf i NBC ar gyfer y gyfres antholeg ingol Lights Out ym 1951. Ysgrifennodd hefyd ir rhaglenni tel ...

Athroniaeth
                                     

ⓘ Athroniaeth

Astudiaeth o sut y dylem fyw, sut mae pethaun bodoli, natur gwybod, a rhesymeg yw athroniaeth.

Mae athroniaeth yn astudiaeth o broblemau cyffredinol a gwaelodol syn ymwneud â bodolaeth, gwybodaeth, gwerthoedd, rheswm ac iaith.

Gellir gwahaniaethu rhwng athroniaeth a dulliau eraill syn ceisio ateb y cwestiynau hyn e.e. cyfriniaeth, mytholeg neur celfyddydau drwy ei dull systematig, gwyddonol ai dibyniaeth ar ddadleuon rhesymegol.

Mae llawer o Gymry wedi ymhel â chwestiynau mawr crefydd yn hytrach nag athroniaeth fel y cyfryw, a bu perthynas agos rhwng diwinyddiaeth ac athroniaeth yng Nghymru ers sawl canrif. Yr athronydd cyntaf y gwyddom amdano yng Nghymru oedd Edward Herbert 1583-1648, a gellid dadlau mai ystyriaethau crefyddol a chyfrinol oedd y tu ôl ir hyn a ysgrifennai Morgan Llwyd 1619-1659 am yr hunan.

Y gair gwreiddiol am athroniaeth yn y Gorllewin oedd y gair Groeg φιλοσοφία philosophia, syn golygu "cariad at wybodaeth".

                                     

1. Metaffiseg

Cangen o athroniaeth syn ymwneud ag egwyddorion sylfaenol yw metaffiseg. Ei nod yw cael gwybod am wir ystyr pethau au hanfod, ac felly maen astudio yn bennaf cysyniadau haniaethol, hynny yw pethau nad oes modd eu profin ddiriaethol.

                                     

2. Athroniaeth gymhwysol a rhyngddisgyblaethol

Athroniaeth crefydd a diwinyddiaeth

Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Athroniaeth y gwyddorau a rhesymeg

Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Estheteg

Cangen o athroniaeth yw estheteg syn ymwneud â natur prydferthwch, celfyddyd, a chwaeth. Nod estheteg yw i ddarparu meini prawf o ddelfrydau ar gyfer astudiaeth feirniadol or celfyddydau.

                                     

2.1. Athroniaeth gymhwysol a rhyngddisgyblaethol Athroniaeth wleidyddol

Athroniaeth syn ymwneud â chysyniadau a dadleuon gwleidyddol yw athroniaeth wleidyddol. Maen astudio a thrafod pynciau megis rhyddid, cyfiawnder, hawliau a dyletswyddau, rhwymedigaethau, y gyfraith, eiddo, grym, awdurdod, systemau gwleidyddol, a natur llywodraeth, yn enwedig ei phwrpas, ei swyddogaethau ai chyfreithlondeb.

                                     

2.2. Athroniaeth gymhwysol a rhyngddisgyblaethol Athroniaeth y gwyddorau a rhesymeg

Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

                                     

2.3. Athroniaeth gymhwysol a rhyngddisgyblaethol Estheteg

Cangen o athroniaeth yw estheteg syn ymwneud â natur prydferthwch, celfyddyd, a chwaeth. Nod estheteg yw i ddarparu meini prawf o ddelfrydau ar gyfer astudiaeth feirniadol or celfyddydau.

                                     

2.4. Athroniaeth gymhwysol a rhyngddisgyblaethol Moeseg

Astudiaeth athronyddol maes moesoldeb, sef y cwestiwn mawr o "sut y dylem fyw", yw moeseg. Gellir rhannu hanes moeseg yn y Gorllewin yn sawl rhan, gan gychwyn gyda Groegiaid yr Henfyd a gwaith y Soffyddion fel Protagoras ac wedyn athronwyr mawr fel Socrates, Platon ac Aristotlys. Ar seiliau gwaith y Groegiaid ond dan ddylanwad ac ysbrydoliaeth amlwg y Testament Newydd, datblygodd moeseg Gristnogol. Un o foesegwyr mawr yr Oesoedd Canol oedd Thomas Aquinas a ddilynodd Aristotlys mewn sawl maes ond a roddodd y pwyslais ar y dyletswydd i ufuddhau i ddeddfau Duw. Yn y Cyfnod Modern newidiodd cyfeiriad moeseg a datblygodd Naturiolaeth Foesegol, a welir yng ngwaith Thomas Hobbes, er enghraifft. Ond daeth syniadau eraill ir amlwg, rhai ohonynt yn wrthwynebus i syniadaeth Hobbes, a chafwyd sawl athroniaeth moes yn cynnwys Iwtilitariaeth, athroniaeth Immanuel Kant a moeseg ôl-Kantaidd, syn ymrannun sawl ffrwd.

Ethos bywyd yr unigolyn yw moeseg; moesoldeb ywr agweddau syn ymwneud â phobl eraill a chymdeithas oll, megis dyletswyddau ac iawnderau. Delfrydaur ddamcaniaeth foesol nodweddiadol yw cyffredinoliaeth ac amhleidioldeb, ac yn aml bydd y damcaniaethwr normadol yn llunio egwyddorion a safonau ymddygiad er mwyn bywn moesegol. Mae rhain gweld y reddf ddynol a synnwyr cyffredin yn sylfeini moeseg. Hyd yn oedd mewn damcaniaethau syn honni eu bod yn hollgyffredinol, maent yn "feysydd ffrwydron" moesegol syn llawn cyfyng-gyngor a dilemâu syn ddadleuon cymhleth o egwyddorion, cafeatau, amodau arbennig, ac anghysondebau.



                                     

3. Hanes

Athroniaeth y Gorllewin

Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Athroniaeth India

Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Athroniaeth Dwyrain Asia

Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Athroniaeth Affrica

Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

                                     

4. Rhai athronwyr enwog

  • Platon - Athronydd clasurol o Athen
  • Aristoteles - Athronydd clasurol o Athen
  • Thomas Hobbes - Athronydd glasurol Realaidd o Loegr
  • Machiavelli - Athronydd glasurol Realaidd or Eidal
  • John Locke - Tad rhyddfrydiaeth gyfalafol fodern
  • Conffiwsiws 551-479 CC
  • Edmund Burke - Ceidwadwr cynnar
  • Socrates - "Tad Athroniaeth Orllewinol"
  • Bertrand Russell
  • Hannah Arendt - Meddylwraig fodern
  • René Descartes
                                     

4.1. Rhai athronwyr enwog Rhai athronwyr o Gymru

  • Rush Rhees Darlithydd dylanwadol ym Mhrifysgol Abertawe
  • D. Emrys Evans 1891 - 1966 Ganed yng Nghlydach; Prifathro Coleg y Brifysgol, Bangor.
  • Lewis Edwards 1809 - 1887 Sgwennodd Athrawiaeth yr Iawn 1860
  • Richard Price 1723 - 1791 syniadaeth newydd ar "gyfrifoldeb"; cefnogwr bwrd o Chwyldro Ffrainc ac America.
  • John Llewelyn 1928 - Arbenigwr ar Derrida a Levinas
  • Thomas Charles Edwards Prifathro a Chadair athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a sefydlwyd yn 1872.
  • David Adams 1845 - 1923 ganed yn Nhal-y-bont, Ceredigion; athro a gweinidog; arloeswr y ddiwynyddiaeth ryddfrydol yng Nghymru.
  • Dewi Z. Phillips 1934 - 2006 Golygydd y cyfnodolyn Philosophical Investigations.
  • Henry Jones Athro athroniaeth ym Mhrifysgol Bangor a aeth wedyn yn athro athroniaeth yn Glasgow.
  • R. Tudur Jones - Diwinydd ac athronydd Cristnogol Uniongred
  • Edward Herbert 1538 - 1648; awdur De Veritate 1623
  • David Williams 1738 - 1816
  • Hywel David Lewis 1910 - 1992 - Diwinydd ac athronydd Cymreig
  • J.R. Jones - Athronydd Cymreig
  • Pelagius - tua 350 - tua 418 Diwinydd ac athronydd Brythonig


                                     
  • mwyaf dylanwadol Groeg yr Henfyd. Trawsnewidiasant athroniaeth Gynsocrataidd yn sylfeini r Athroniaeth Orllewinol gyfarwydd. Dywed rhai y bu i Platon ac
  • Cangen o athroniaeth yw estheteg neu geineg sy n ymwneud â natur prydferthwch, celfyddyd, a chwaeth. Nod estheteg yw i ddarparu meini prawf o ddelfrydau
  • trefedigaethrwydd. Damcaniaeth amlddisgyblaethol ydyw sy n ymdrin ag athroniaeth gwyddor gwleidyddiaeth, ffeministiaeth, damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol
  • Y gangen o athroniaeth sy n ymwneud a natur gwybodaeth, a t berthynas rhwng gwybodaeth a gwirionedd yw epistemoleg o r Groeg επιστήμη - episteme, gwybodaeth
  • Cysyniad neu athroniaeth yw Swrealaeth, sy n honni y gellir rhyddhau r meddwl, ac yna rhyddhau r unigolyn a r gymdeithas, trwy defnyddio cynneddfau dychmygol
  • Athroniaeth yw ffenomenoleg sy n ceisio deall ffenomenau drwy brofiad yr ymwybod, heb ddamcaniaethau achosol nac ychwaith ragdybiaethau a rhagsyniadau
  • archwilio caffaeliad a chymhwysiad pŵer. Mae meysydd cysylltiedig yn cynnwys athroniaeth wleidyddol, sy n ymchwilio i sail resymegol am wleidyddiaeth ac egwyddor
  • 25 Gorffennaf, 2006 Bu n Athro yn Adran Athroniaeth Coleg Prifysgol Cymru, Abertawe, ac yn Athro Athroniaeth Crefydd ym Mhrifysgol Clarement, California
  • frenhinllin gyntaf i w seilio ei hun ar athroniaeth Conffiwsiaeth dewisodd yr Ymerawdwr Wu Gonffiwsiaeth fel yr athroniaeth oedd i lywodraethu r wladwriaeth

Users also searched:

...
...
...